Ardal: Lloegr a Chymru

Dyddiad Cau: dim dyddiad cau penodol

Ymddiriedolaeth Koestler ydy elusen celfyddydau carchar mwyaf blaenllaw Prydain. Bu'r ymddiriedolaeth yn gwobrwyo, arddangos, gwerthu a hyrwyddo celf gan garcharorion, cleifion unedau cadarn a charcharorion mewnfudo ers dros 50 mlynedd.

Drwy ei gynllun mentora celfyddydau, mae'r Ymddiriedolaeth Koestler yn adnabod a chefnogi carcharorion dawnus a brwdfrydig gan eu helpu i ddefnyddio eu creadigrwydd mewn ffordd gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol wrth iddyn nhw ailsefydlu yn y gymdeithas.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn chwilio am artistiaid, ysgrifenwyr creadigol a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant celfyddydau i helpu cefnogi'r cynllun mentora. Mae'r ymddiriedolaeth yn gobeithio clywed gan ymgeiswyr o Ogledd Orllewin Lloegr a De Cymru yn arbennig.

Mae'r post hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Mae Mentoriaid yn gweithio un-i-un gyda chyn-droseddwyr gan gynnig rhwng 7 i 10 sesiwn mentora dros gyfnod o 12 mis. Mae'r Ymddiriedolaeth Koestler yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth gyflawn ond mae'r swyddogaeth yn un ymreolaethol ar y cyfan. Mae'r Ymddiriedolaeth yn chwilio am fentoriaid brwdfrydig gall gynnig eu harbenigedd wrth fentora.

Maen nhw'n croesawu ceisiadau gan gyn-droseddwyr, ac yn derbyn ceisiadau ar gyfer y swydd hon yn barhaus.

Gallwch weld y manylion llawn ar wefan yr Ymddiriedolaeth Koestler.