Voluntary Arts Wales> Swyddi celf
> Cyllid
> Hyfforddiant
> Gwirfoddoli yn y celfyddydau
> Gyfleoedd creadigol


Polisi Gymraeg Rhwydwaith Y Celfyddydau Gwirfoddol – Diweddarwyd Ebrill 2016

Mae'n fwriad gan Celfyddydau Gwirfoddol i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg a Saesneg yn ein gwaith yng Nghymru. Mae Celfyddydau Gwirfoddol wedi ymrwymo i sicrhau bod gan grwpiau celfyddydau gwirfoddol a trydydd sector, mudiadau partner, gwirfoddolwyr a staff yng Nghymru hawl cyfartal i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru â thrwy gyfrwng y Saesneg. Mae Celfyddydau Gwirfoddol wedi ymrwymo i hyn gan ei fod yn darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg a'r rhai di-Gymraeg, gan gydnabod bod iaith gyntaf rhywun yn bwysig i bawb, boed Gymraeg neu Saesneg, oherwydd:

  • Bod iaith yn gyfrwng mynegiant
  • Bod iaith yn fathodyn hunaniaeth
  • Bod iaith yn offeryn grym
  • Bod yr iaith Gymraeg yn rhan o'n diwylliant a'n treftadaeth yng Nghymru, a bod diogelu ei dyfodol yn rhan bwysig o'n gwaith fel mudiad.

Mae Celfyddydau Gwirfoddol yn ymwneud â grwpiau ac unigolion yng Nghymru yn bennaf trwy ei adran weithredol 'Celfyddydau Gwirfoddol Cymru,' felly mae'r polisi hwn yn gymwys yn bennaf i waith Celfyddydau Gwirfoddol Cymru ond hefyd i unrhyw weithgareddau eraill Ile bo Celfyddydau Gwirfoddol yn ymgymeryd â hwy yng Nghymru yn unig, neu wrth weithio ar fentrau ledled y DU.

Er nad yw Celfyddydau Gwirfoddol yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg, mae'r Safonau yn cynrychioli arfer gorau i'w ddilyn, ac mae ein cyllidwyr, megis Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ddarostyngedig i'r Safonau. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cynghori ein bod yn dilyn gofynion ein cyllidwyr.

Canllawiau

Mae'r adran hon yn nodi sut mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu, i sicrhau bod y polisi'n cael ei weithredu'n ymarferol.

Gosodwyd y canllawiau mewn 4 dosbarth:

  1. Delwedd gyhoeddus
  2. Cyswllt uniongyrchol
  3. Gweinyddiaeth fewnol
  4. Gweithredu
1. Delwedd Gyhoeddus

Bydd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn yr un modd, gyda'r un parch ac ar sail cyfartal. Bydd pob taflen, arwydd ac unrhyw ddeunydd cyhoeddus yn cael ei gynhyrchu'n ddwyieithog.

  1. Enw'r adran yw Voluntary Arts Wales / Celfyddydau Gwirfoddol Cymru
  2. Bydd pob pen llythyr, slip cyfarch a cherdyn busnes yn ddwyieithog.
  3. Bydd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn defnyddio sawl dull i gyfieithu pob deunydd, gyda rhan o'r gwaith cyfieithu yn cael ei wneud yn
  4. fewnol, a darnau mwy cymhleth yn cael eu cyfieithu gan gyfieithydd proffesiynol.
  5. Bydd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn sicrhau bod pob arwydd mewnol yn y ddwy iaith.
  6. Bydd holl wasanaethau Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn cael eu hysbysebu'n ddwyieithog – mewn papurau newydd a hefyd taflenni a ddosberthir i'r cyhoedd.
2. Cyswllt Uniongyrchol

Mae'r rhan yma yn trafod sut yr ydym am ddelio'n uniongyrchol â phobl, grwpiau neu aelodau o'r cyhoedd.

  1. Bydd pob gohebiaeth (llythyrau, ebost) yn cael ei ateb yn yr iaith wreiddiol. Petae gohebiaeth wedi cael ei ysgrifennu at rywun nad yw'n siarad Cymraeg, yna bydd y llythyr yn cael ei gyfieithu gan aelod o staff sy’n siarad Cymraeg neu gyfieithydd proffesiynol, a bydd cyfieithiad Cymraeg o'r ateb yn cael ei anfon yn ô1.
  2. Mae'r teleffon yn cael ei ateb gan BOB aelod o'n staff yn Gymraeg a Saesneg bob tro, gyda'r cyfarchiad Cymraeg yn gyntaf.
    Lle bo hynny'n bosibl, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn newis iaith yr unigolyn. Os yw'r unigolyn eisiau siarad Cymraeg wrth drafod pwnc sydd yng ngofal aelod o staff sydd yn ddi-Gymraeg, fe esbonir yn gyntaf oll, na fedr yr aelod staff perthnasol siarad Cymraeg, ond y gall cyfieithydd gael ei wahodd i'r cyfarfod pe dymunir.
  3. Bydd papurau pwyllgorau (agenda a chofnodion) yn cael eu hanfon i aelodau'r pwyllgor yn eu dewis iaith. Gall aelodau ddewis iaith ymlaenllaw. Nid yw o fantais o ran cost nac o les i'r amgylchedd i ddarparu'r holl bapurau yn ddwyieithog.
  4. Ein nod yw sicrhau bod pob gwasanaeth ddarperir gan Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn cael ei gynnig i'r un safon yn y ddwy iaith, a bod pob unigolyn, Ile bo hynny'n bosibl, yn derbyn y gwasanaeth hwnnw yn ei (d)dewis iaith. Fe ddylai hyn fod yn bosibl fel arfer, ond ar adeg pan na fydd aelod o staff neu swyddog ar gael i ddarparu'r gwasanaeth yn Gymraeg, byddwn yn egluro hyn, a chaiff amser arall, pan fydd rhywun yn medru delio â'r sefyllfa yn Gymraeg, ei gynnig.
  5. Bydd staff Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn ymgysylltu yn ddwyieithog ar-lein ac wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn ceisio cyhoeddi Twitter, Facebook a swyddi y wefan yn Gymraeg a Saesneg.
  6. Bydd staff gyda chyfrifoldeb am redeg mentrau ledled y DU e.e. Gwobrau Epic, Wythnos Gelfyddydau Gwirfoddol, yn gweithio gyda chydweithiwyr Celfyddydau Gwirfoddol Cymru i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu yn ddwyieithog yng Nghymru.
3. Gweinyddiaeth fewnol
  1. Bydd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn anelu i ddarparu, os gwneir cais, pob dogfen sydd yn delio gyda chyflogaeth staff yn ddwyieithog — mae hyn yn cynnwys cytundebau, gwerthusiad staff ac unrhyw gynlluniau sydd yn effeithio'r staff (e.e. iechyd a diogelwch).
  2. Bydd disgrifiad pob swydd, yn cynnwys gwirfoddolwyr, yn nodi os yw'r gallu i siarad Cymraeg ac i gyfathrebu yn Gymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd.
  3. Pan fo cwmni neu fudiad arall yn cael cytundeb i wneud darn o waith i ni, bydd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn gwneud yn siwr bod canllawiau'r cynllun yn cael eu cyflwyno'n glir i'r contractwyr, a bydd yn cadw golwg ar y gwasanaeth sydd yn cael ei ddarparu gan y contractwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at y canllawiau.
4. Gweithredu

Targedau a Chyfrifoldebau

Mae pob elfen o fewn y canllawiau yn cael eu gweithredu yn barod. Bydd mwy nag un aelod o staff yn gyfrifol am wahanol elfennau'r cynllun. Bydd yr Uwch Swyddog Datblygu yn gyfrifol am arolygu gweithredu'r cynllun.

Enw'r Adran
Logo Dwyieithog
Pen llythyr ayb
Cyfieithu
Arwyddion
Hysbysebion
Y Cyfryngau/Y Wasg
Siarad â'r Wasg
Cylchgronnau/Cylchlythyrau
Cyhoeddiadau
Deunydd Hyrwyddo/Marchnata
Cyfarfodydd Grwp Cynghori Ar gais
Cofnodion/Agenda Ar gais
Gwasanaethau Ar gais
Cyflogaeth Ar gais
Disgrifiad Swydd
Hysbysebion am Swyddi
Hyfforddiant a Datblygiad Ar gais
Cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Gwefan