Cymraeg Ysbryd Gwirfoddoli Cymru Nod Ysbryd Gwirfoddoli Cymru yw gwella safonau pan fo gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cyhoeddus ac i adeiladu rhwydweithiau all gefnogi mudiadau i ddysgu oddi wrth brofiadau'i gilydd. Gan weithio gyda chwe phartner allweddol, mae prosiect Ysbryd Gwirfoddoli Cymru yn edrych ar ffyrdd o wella rheoli gwirfoddolwyr mewn digwyddiadau, gan ddefnyddio Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel man cychwyn. Roedd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn un o'r chwe partner yn y prosiect. Mae Fiona Liddell, Rheolwr Datblygu Gwirfoddoli WCVA, wedi ysgrifennu blog difyr yn bwrw golwg ar hanes y prosiect. Apwyntiwyd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru i ddatblygu pecyn cymorth o adnoddau am wirfoddoli mewn digwyddiadau, a Janina Kuczys, ein cyn Swyddog Datblygu Is-Adeiledd, wnaeth y gwaith hwn ar sail adnoddau a phrofiadau gasglwyd gan bartneriaid. Mae adnoddau ddatblygwyd yn ystod y prosiect i gefnogi gwirfoddoli mewn digwyddiadau yn awr ar gael ar gyfer defnydd cyffredinol. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan WCVA Mae'r eitem hon hefyd ar gael yn Saesneg Manage Cookie Preferences