Yn 2018, mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn ymgymryd â phrosiect 12 mis i gefnogi datblygiad ein dealltwriaeth o'r gwahanol fathau o greadigrwydd sy'n bodoli mewn cymunedau amrywiol ledled Cymru.

Enw’r prosiect yw ‘Sgyrsiau Creadigol Cymunedol’ (Creative Community Conversations): archwiliad blwyddyn o hyd sy’n edrych ar ehangder ac amrywiaeth gweithgareddau creadigol dyddiol sy'n cael eu cynnal ledled Cymru. Caiff ein gwaith ei lywio gan banel arbenigol, a byddwn yn cynnal cyfres helaeth o sgyrsiau agored a digwyddiadau ymgysylltu. Cesglir ein canfyddiadau i adroddiadau ysgrifenedig ac adroddiadau fideo.

Gwyddom fod llawer iawn o weithgaredd creadigol yn digwydd bob dydd ledled Cymru. Pwrpas y prosiect yw datgelu a dathlu maint llawn gweithgareddau creadigol gwirfoddol ac amatur mewn gwahanol gymunedau o le a diddordeb, sydd yn bodoli’n bennaf heb gefnogaeth arian cyhoeddus, ac archwilio p’un a yw ymgymryd â gweithgarwch creadigol ar y cyd yn cyfrannu at adeiladu cymunedau cryf a chynhwysol.

Aelodau'r Panel Arbenigol:

  • Helen Keatley (Cadeirydd Celfyddydau Gwirfoddol Cymru)
  • Russell Todd
  • Guy O'Donnell
  • Leanne Rahman
  • Joy Kent
  • Bryn Jones

I ddysgu mwy am y prosiect, cysylltwch â Gareth Coles ar [email protected].  

Cefnogir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru.