Mae'r rhestr fer wedi'i chyhoeddi ar gyfer Gwobrau Hearts for the Arts 2022 Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA).

[English]

Mae'r gwobrau'n dathlu arwyr tawel Awdurdodau Lleol sy'n eirioli dros y celfyddydau er gwaethaf pob anfantais.

Bydd yr enillwyr eleni'n cael eu dewis o'r rhestr fer gan banel o feirniaid sy'n arbenigwyr ac yn ymarferwyr allweddol yn niwydiant y celfyddydau, gan gynnwys:

  • Andy Dawson – Inspire Youth Arts, enillydd gwobr Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Hearts for the Arts 2021
  • Krishnan Guru-Murthy - newyddiadurwr a chyflwynydd Channel 4 News
  • Kadiatu Kanneh-Mason – awdur, siaradwr a chefnogwr addysg gerddoriaeth
  • Shaparak Khorsandi – digrifwraig ar ei thraed, awdur, person hyfryd yn gyffredinol
  • Anna Lapwood - organydd, arweinydd a darlledwr
  • Deborah Meaden - gwraig fusnes ac un o'r 'Dreigiau' ar y teledu
  • Jack Thorne - sgriptiwr ffilmiau a dramodydd
  • Samuel West - actor, cyfarwyddwr, Ymddiriedolwr Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau

Derbyniwyd enwebiadau o bob cwr o'r DU ar gyfer pob un o dri chategori'r gwobrau: Prosiect Celfyddydau Gorau; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol; a Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd.

Mae'r rhestr fer yn cynnwys cymysgedd eclectig o brosiectau a phobl ysbrydolgar sy'n dod â chreadigrwydd i mewn i fywydau pobl i adfywio cymunedau, rhoi hwb i economïau a gofalu am y rhai mewn cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed. O Ŵyl Ffilmiau Distaw i arddangosfeydd y celfyddydau mewn siopau segur, ac o brosiectau creu cerddoriaeth a chorau pob cenhedlaeth i arloesedd digidol, mae'r rhestr fer eleni'n profi y gall y celfyddydau ddarparu cefnogaeth hanfodol i'r GIG ac i lawer o sefydliadau eraill y DU sy'n gyfrifol am ofal ac ailsefydlu, a bod creadigrwydd yn creu cysylltiadau i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.

Barnwyd y rhestr fer gan gynrychiolwyr Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau a chan y partneriaid dyfarnu eleni: Community Leisure UK, Creative Lives, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Thrive ac UK Theatre.

Meddai Samuel West, Ymddiriedolwr Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau:

“Nid ydym wedi cael seibiant o'r pandemig ers mis Mawrth 2020; mae ansefydlogrwydd a diffyg sicrwydd yn bygwth goroesiad ein diwydiant celfyddydau o hyd. Ces i fy syfrdanu, felly, gan gyflawniadau'r bobl a'r prosiectau ar restr fer y Gwobrau Hearts for the Arts eleni. Rydym yn gobeithio y bydd cydnabod eu hymdrechion yn rhoi'r hwrdd o anogaeth y mae ei hangen ar awdurdodau lleol, artistiaid a sefydliadau'r celfyddydau i ddal ati. Mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn bwysig tu hwnt - fel y gellir ei weld yn yr effaith anferth y mae pob un ar y rhestr fer yn ei chael ar eu cyfranogwyr, eu cymunedau a'u cynulleidfaoedd”.

Y rhestrau byrion yw:

Prosiect Celfyddydau Gorau

  • Westminster Reveals – Cyngor Dinas Westminster
  • Electric Medway – Cyngor Medway
  • Of Earth & Sky – Cyngor Gogledd Swydd Lincoln
  • Raw Material Music and Media – Bwdeistref Lambeth, Llundain
  • Live @ the Lightbox – Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Barnsley
  • Together & Apart – Cyngor Wakefield
  • LOVE Local Arts - Cyngor Ardal Arun a Chyngor Tref Littlehampton
  • Intergenerational Connections Project – Cyngor Ardal Mole Valley
  • Hippodrome Silent Film Festival – Ymddiriedolaeth Gymunedol Falkirk
  • Anstee Bridge - Achieving Children a Chyngor Bwrdeistref Kingston
  • The Big Thank You Volunteers Picnic – Cyngor Bwrdeistref Tunbridge Wells
  • We Found Love in the 80s – Dinas Llundain a Waltham Forest

Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol

  • Claire Starmer – Cyngor Dinas Birmingham
  • Deborah McGill – Live Borders
  • Michelle Walker – Cyngor Southwark
  • Zerritha Brown – Bwrdeistref Brent, Llundain

Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd

  • Y Cynghorydd Danny Thorpe – Bwrdeistref Frenhinol Greenwich
  • Y Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn - Cyngor Tref Criccieth
  • Y Cynghorydd Mary Huggins – Cyngor Ardal Mole Valley
  • Y Cynghorydd Susan Hinchcliffe – Cyngor Ardal Fetropolitan Dinas Bradford

Bydd enillwyr Gwobrau Hearts for the Arts 2022 yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd San Ffolant, 14 Chwefror 2022.

Mae Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau'n cyflwyno'r Gwobrau Hearts for the Arts bob blwyddyn. Cyflwynir y gwobrau eleni mewn partneriaeth â Community Leisure UK, Creative Lives, Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr, Thrive, UK Theatre, a Chyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru.

Lansiwyd y Gwobrau Hearts for the Arts yn 2016 i dynnu sylw at gyflawniadau Awdurdodau Lleol sy'n parhau â'u gwasanaethau'r celfyddydau yn erbyn cefndir o doriadau ariannol llym. Mae Les Dennis, Susie Dent, Gary Kemp ac Olivia Colman ymysg y beirniaid blaenorol. Ymysg enillwyr y blynyddoedd blaenorol oedd Wandsworth gyda'u Citiau Chwarae 'Create & Learn' a'r Cynghorydd Janet Emsley o Fwrdeistref Rochdale.

I gael mwy o wybodaeth am yr enwebeion ar y rhestr fer, ewch i forthearts.org.uk/campaigns/hearts-for-the-arts