English

Heb ei gadael ar ôl ar y silff – Rhan holl bwysig ein llyfrgelloedd cyhoeddus mewn bywyd cyfoes

Arolwg yn amlygu rhan bwysig llyfrgelloedd Cymru wrth gynnig gweithgareddau creadigol.

Mae’r amrediad o wahanol weithgareddau mae llyfrgelloedd yn eu cynnig wedi cynyddu dros y blynyddoedd, ac mae arolwg gan Gelfyddydau Gwirfoddol Cymru yn 2018 wedi dangos beth ydy natur a’r gwahanol fathau o weithgareddau creadigol gaiff eu cynnig gan, neu sy’n digwydd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru – a’r manteision sylweddol daw hyn i bobl a chymunedau.

Bu i 19 o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ymateb i’r arolwg, ac mae’r holl lyfrgelloedd wnaeth ymateb yn aml yn cynnig ac yn cefnogi nifer fawr o weithgareddau creadigol.

Y gweithgareddau creadigol mwyaf poblogaidd gaiff eu cynnig ydy gweithgareddau yn ymwneud â llenyddiaeth (ysgrifennu, geiriau ar lafar, ayb), celfyddydau gweledol, er enghraifft, peintio a thynnu lluniau, crefftau, canu a chreadigedd digidol. Mae rhai llyfrgelloedd yn cynnig gweithgareddau ffilm a ffotograffiaeth a gweithgareddau cerddorol yn rheolaidd; ac ychydig hefyd yn cynnig gweithgareddau dawns a drama. Mae llyfrgelloedd hefyd yn aml yn cynnal digwyddiadau, gwyliau a dathliadau unigryw un tro.

Mae’r arolwg yn dangos beth ydy’r manteision amrywiol y mae’r gweithgareddau creadigol hyn gaiff eu cynnig gan lyfrgelloedd yn eu rhoi i bobl: gwella iechyd a lles, a gwella rhyngweithio cymdeithasol oedd y ddwy brif fantais.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau creadigol yn cael effaith gadarnhaol ar les ac yn gallu cael effaith manteisiol sylweddol ar iechyd pobl. Mae’r arolwg yn awgrymu bod llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig yn hyn o beth: gall dod â phobl ynghyd trwy weithgareddau perthnasol a phwysig sy’n llawn hwyl gynnig sawl mantais, er enghraifft, “magu hyder” ac “ymlacio a brwydro yn erbyn tyndra”, tra bod “gweithgareddau rheolaidd yn darparu rhwydwaith cymdeithasol cadarn i rai o’r aelodau sydd fwyaf ar wahân yn ein cymuned”.

Mantais arall gyffredin gafodd ei nodi oedd y cyfle i “ddysgu sgiliau newydd” a “rhoi deilliannau dysgu ar waith”, gan awgrymu fod llyfrgelloedd yn llwybrau pwysig o ran dysgu neu hyfforddiant pellach.

Lle i bawb

Yr hyn sy’n gadarnhaol am lyfrgelloedd ydy eu natur gymunedol a hawdd mynd atynt: lle cyffredin lle mae croeso i bawb a lle dydy’r gost ddim yn eich rhwystro rhag cymryd rhan. Dywedodd rhai ymatebwyr:

  • “Mae amgylchedd anffurfiol llyfrgelloedd yn ei gwneud hi’n haws cymryd rhan mewn celfyddydau creadigol”.
  • “Mae’n lle gwych er mwyn darparu amgylchedd cymdeithasol sydd ddim yn fygythiol er mwyn i bobl ddod at ei gilydd.”

Mae llyfrgelloedd yn “amgylchedd diogel”: yn rhywle lle mae pobl yn teimlo’n rhan o’r gymuned ehangach ac yn ddigon tawel eu meddwl i “roi cynnig ar rywbeth gwahanol” a phrofi “profiadau newydd y bydd pobl yna’n mynd ymlaen i roi cynnig pellach arnyn nhw.”

Y dyfodol

“Byddai’n wych petai pobl yn dechrau meddwl am lyfrgelloedd fel lle bob dydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.”

Mewn rhai achosion, mae cynnig gweithgareddau creadigol wedi cynyddu’r nifer o aelodau mewn llyfrgelloedd yn ogystal â chynyddu diddordeb yn stoc y llyfrgell.

Mae’r arolwg hefyd yn awgrymu bod cyfraniad pwysig gall llyfrgelloedd ei wneud i flaenoriaethau polisi cyhoeddus Cymru heddiw, er enghraifft, atal teimlad o fod ar wahân ac unigedd, rhoi cyfle i bobl cymryd rhan yn ddiwylliannol yn ogystal â chynnal a gwella iechyd a lles. Mae’r gweithgareddau creadigol sy’n agored i bawb ac am ddim neu am gost fach y mae llyfrgelloedd lleol yn eu cynnig yn golygu eu bod mewn lle da er mwyn ceisio cyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae symudiad ar fynd er mwyn cynyddu cydnabyddiaeth dros bwysigrwydd hanfodol gweithgareddau bob dydd cymunedol, wedi’u hyrwyddo gan fudiadau fel Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a’u hamlygu gan wyliau fel Cer i Greu, Gwanwyn, The Big Draw a Fun Palaces. Mae’n amlwg fod llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn bartner hanfodol yn y symudiad hwn.


Mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn elusen sy’n hyrwyddo cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a diwylliannol. Mae’n bodoli er mwyn hyrwyddo a chefnogi yr holl wahanol weithgareddau creadigol sy’n digwydd bob dydd ar draws Cymru. Mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn rhan o’r Celfyddydau Gwirfoddol, elusen genedlaethol a chwmni cyfyngedig drwy warrant gafodd ei sefydlu yn 1995, sy’n gweithredu ar draws Prydain ac Iwerddon. Mae Celfyddydau Gwirfoddol Cymru yn cydnabod ei bod yn derbyn arian nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Gareth Coles, Cyfarwyddwr Celfyddydau Gwirfoddol Cymru ar [email protected]