Mae'r enillwyr wedi'u cyhoeddi ar gyfer Gwobrau Hearts for the Arts 2022 Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA). Mae'r gwobrau'n dathlu arwyr tawel Awdurdodau Lleol sy'n eirioli dros y celfyddydau er gwaethaf pob anfantais.

[English]

  • Mae'r gwobrau wedi'u dyfarnu gan weithwyr proffesiynol uchel eu proffil ym meysydd y celfyddydau, busnes a newyddiaduriaeth: Andy Dawson; Krishnan Guru-Murthy; Kadiatu Kanneh-Mason; Shaparak Khorsandi; Anna Lapwood; Deborah Meaden; Jack Thorne; ac ymddiriedolwr ymgyrch genedlaethol y celfyddydau Samuel West.
  • Mae prosiect barddoniaeth gymunedol cyhoeddus, ymgyrch sy'n defnyddio celf a diwylliant i ddod â phobl yn ôl i Ganol y Ddinas, a phrosiect sy'n annog cysylltiadau rhwng y cenedlaethau i gyd wedi'u cydnabod yn y gwobrau eleni.
  • Bydd y gwobrau'n cael eu cyflwyno gan Samuel West a beirniaid gwadd arbennig yn seremoni wobrwyo ddigidol Hearts for the Arts sydd i'w chynnal gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ar ddydd Llun 7 Mawrth.

Derbyniwyd enwebiadau o bob cwr o'r DU ym mhob un o dri chategori'r gwobrau: Prosiect Celfyddydau Gorau; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol; Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd. 

Dewiswyd pum enillydd y gwobrau o restr fer o 20 o brosiectau ac eiriolwyr gan banel dyfarnu o weithwyr proffesiynol uchel eu proffil yn y celfyddydau, busnes a newyddiaduriaeth fel a ganlyn:

  • Andy Dawson – Inspire Youth Arts, enillydd gwobr Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol HFTA 2021
  • Krishnan Guru-Murthy - newyddiadurwr a chyflwynydd Channel 4 News
  • Kadiatu Kanneh-Mason, awdur, siaradwr a chefnogwr addysg gerddoriaeth
  • Shaparak Khorsandi, digrifwraig ar ei thraed, awdur, person hyfryd yn gyffredinol
  • Anna Lapwood - organydd, arweinydd a darlledwr
  • Deborah Meaden - gwraig fusnes ac un o'r 'Dreigiau' ar y teledu
  • Jack Thorne - sgriptiwr ffilmiau a dramodydd
  • Samuel West, awdur a chyfarwyddwr, Ymddiriedolwr NCA

A'r enillwyr yw:

  • Prosiect Celfyddydau Gorau: Of Earth & Sky (Cyngor Gogledd Swydd Lincoln). Cyflwyniad Of Earth & Sky gan Luke Jerram i ddathlu pen-blwydd 20-21 Canolfan y Celfyddydau Gweledol,llwybr celf weledol ar raddfa fawr a adeiladwyd o farddoniaeth a ysgrifennwyd gan drigolion Scunthorpe.
  • Prosiect Celfyddydau Gorau: Intergenerational Connections Project – Cyngor Ardal Mole Valley a Chyngor Swydd Surrey). Prosiect aml-bartner sy'n cynnwys cynghorau Ardal a Sir, y GIG a Rhwydweithiau Gofal Sylfaenol, gan ddefnyddio cerddoriaeth i dyfu cysylltiadau rhwng pobl ifanc sy'n agored i niwed ac aelodau hŷn o'r gymuned leol.
  • Prosiect Celfyddydau Gorau: Westminster Reveals (Cyngor Dinas Westminster). Ymgyrch ddiwylliannol drosgynnol a ddatblygwyd gan Gyngor Dinas Westminster mewn ymateb i'r pandemig, a geisiodd gefnogi'r sector diwylliannol a denu nifer yr ymwelwyr yn ôl i Westminster drwy guradu rhaglen o ymyriadau celf hygyrch mewn mannau cyhoeddus awyr agored, ac mewn siopau gwag
  • Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Gweithiwr Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol: Zerritha Brown (Bwrdeistref Brent, Llundain). Mae Rheolwr Etifeddiaeth 2020 Brent, Zerritha Brown, wedi bod wrthi'n hyrwyddo diwylliant yn Brent ac yn y Cyngor ers dros ddegawd ar ôl arwain ar raglen Olympiad Diwylliannol Brent.
  • Hyrwyddwr Celfyddydau Gorau – Cynghorydd: Y Cynghorydd Ffion Meleri Gwyn (Cyngor Tref Criccieth). A hithau'n artist ac yn athrawes, mae'r Cynghorydd Gwyn wedi mynd ati i greu celf i Griccieth, gan oruchwylio nifer fawr o brosiectau ar gyfer y gymuned leol.

Meddai Samuel West, actor, cyfarwyddwr ac ymddiriedolwr Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau:

“Mae'r pandemig wedi ein dysgu bod ein hanghenion, yn y pen draw, yn syml. Mae angen rhywbeth arnom i'w fwyta. Mae angen rhywle arnom i gysgu. Ac mae angen pethau rhad a diddorol i'w gwneud i'n hatal rhag colli ein meddyliau.

“Mae celf wedi profi ei gwerth drwy gydol y cyfnod clo – mae cerddoriaeth, llyfrau, dramâu ar y teledu, gemau fideo, i gyd wedi rhoi hwb achubyddol i'n hiechyd meddwl a chorfforol. Yr hyn sy'n anoddach mewn pandemig yw teimlo'n rhan o gymuned. Mae lleoliadau gofal wedi dioddef. Mae mannau cyhoeddus wedi'u gadael yn wag. Bu epidemig yn ei rinwedd ei hun o unigrwydd ac
arwahanrwydd.

“Dyna pam rydyn ni'n cefnogi'r bobl a'r prosiectau sy'n cael eu dathlu gan Hearts for the Arts. Rydym mewn cyfnod anodd ac mae arian yn dynn - weithiau mae'r weithred syml o greu unrhyw beth yn teimlo fel rheswm dros gael parti. Ond rydym am daflu'r sbotolau ar arwyr y celfyddydau sy'n mynd yr ail filltir ac yn rhoi'r hwrê o anogaeth sydd ei hangen ar awdurdodau lleol, artistiaid a sefydliadau celfyddydol er mwyn iddynt barhau.

“Mae uwchbŵer gan gelf: dod â phobl at ei gilydd; helpu pobl i deimlo'n ddynol. Oherwydd yn awr, yn fwy nag erioed, does dim nhw a ni. Ni yw'r cyfan.”

Cynhelir seremoni Gwobrau Hearts for the Arts y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn rhithwir ddydd Llun 7 Mawrth.

Mae Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau'n cyflwyno'r Gwobrau Hearts for the Arts bob blwyddyn. Cyflwynir y gwobrau mewn partneriaeth â Community Leisure UK, Creative Lives, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Thrive, UK Theatre, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

I gael mwy o wybodaeth am yr enwebeion ar y rhestr fer ewch i: https://forthearts.org.uk/hearts-for-the-arts-2022-shortlist-announced/