Get involved #CreativeNetwork Rhwydwaith Creadigol - Celfyddydau Lleol Cymru Mae Bywydau Creadigol yn cynnal rhwydwaith ar-lein i gysylltu unrhyw un sy'n gweithio yn, neu sydd â diddordeb mewn, datblygu celfyddydau lleol yng Nghymru. [English] Nodau'r rhwydwaith yw: cynnig cyfleoedd i rannu a dathlu'r gwaith sy'n digwydd ledled Cymru; i gysylltu datblygiad celfyddydau lleol â pholisi cenedlaethol; darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu; a darparu cefnogaeth i bobl sy’n gweithio ym maes datblygu celfyddydau lleol yn yr amseroedd anodd hyn. Mae'r cyfarfodydd fel arfer am 9:30am ar ddydd Iau trwy Zoom. Cyfarfod nesaf 31 Mawrth 2022 - Creadigrwydd a chyswllt ymysg pobl hŷn Bydd y digwyddiad hwn yn arddangos rhywfaint o weithgarwch artistig diweddar yn archwilio cynrychioliadau o bobl hŷn ac yn edrych ymlaen at Gwanwyn ym mis Mai. Bydd hefyd yn cyflwyno ‘Men Who Sing’, ffilm ddogfen am gôr meibion o Sir y Fflint sy’n teithio i Ogledd Iwerddon i gystadlu ar ôl 20 mlynedd, a chawn glywed am y cyfle i drefnu dangosiadau cymunedol o’r ffilm wych hon, sy’n dangos y manteision canu cymunedol mewn oedran hŷn. Cofrestwch ar Eventbrite. Archif o gyfarfodydd 4 Mehefin 2020 - Cyfarfod agoriadol 2 Gorffennaf 2020 - Cyfnewid gwybodaeth 6 Awst 2020 - Cyfleoedd newydd i gydweithio 3 Medi 2020 - Cyflwyno'r achos - Arddangos effeithiolrwydd ein gwaith 1 Hydref 2020 - Ailgychwyn gweithgareddau celfyddydol yng Nghymru 5 Tachwedd 2020 - Parhad Amherffaith - Beth allwn ei wneud i sicrhau bod ein gwaith yn parhau i ddatblygu? 3 Rhagfyr 2020 - Edrych Ymlaen - Wrth i'r flwyddyn gythryblus hon ddod i ben, beth allwn ni ei ddysgu ac adeiladu arno yn 2021? 7 Ionawr 2021 - Gweithgareddau Cyfunol - Sut allwn ni gynllunio ar gyfer darpariaeth gyfunol: cyflwyno cymysgedd o weithgareddau celfyddydol wyneb yn wyneb ac o bell? 4 Chwefror 2021 - Adferiad Creadigol - gyda Pippa Coutts, Rheolwr Polisi a Datblygu, Carnegie UK, Naz Syed, Artist Cymunedol, Ziba Creative a Chylynydd, Cyfuno Casnewydd a Robin Simpson, Prif Weithredwr, Celfyddydau Gwirfoddol 4 Mawrth 2021 - Ymdopi'n Greadigol: Beth yw'r dulliau a'r negeseuon ar gyfer hyrwyddo gweithgaredd creadigol fel mecanwaith ymdopi? 6 Mai 2021 - Creadigrwydd a Chysylltiad Cymdeithasol: Beth yw rôl y celfyddydau wrth helpu i fynd i'r afael â'r unigrwydd a achosir gan y pandemig? 1 Gorffennaf 2021 - Y celfyddydau yng Nghymru fel ecosystem, gyda'r siaradwr gwadd yr Athro John Holden 1 Awst 2021 - Trafodaeth anffurfiol: Dyfodol cyfarfodydd ar-lein. 2 Medi 2021 - Un Person, Rolau Lluosog, gyda'r siaradwr gwadd Joy Kent. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch [email protected] Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth i'r fenter hon.