Casnewydd Mae Bywydau Creadigol, Tin Shed Theatre CIC a'r artist Marion Cheung yn cydweithio ar brosiect i helpu celfyddydau lleol a gweithgareddau creadigol yng Nghasnewydd i ffynnu. [Click here to read this page in English] Rhwng mis Rhagfyr 2025 a mis Chwefror 2026, byddwn yn mapio'r cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol a diwylliannol ledled Casnewydd. Bydd y partneriaid yn cynnal pedair sgwrs greadigol, i archwilio beth fyddai'n helpu creadigrwydd lleol yng Nghasnewydd i ffynnu. Byddwn hefyd yn cynnal pedwar gweithdy hyfforddi ymarferol ar heriau allweddol ac anghenion datblygu ar gyfer arweinwyr creadigol. Mae manteision profedig helaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol rheolaidd, o welliannau i iechyd a lles meddyliol a chorfforol, i ddatblygu sgiliau a chydlyniant cymdeithasol. Rydym am ddathlu a chefnogi'r creadigrwydd bywiog ac amrywiol yng Nghasnewydd, a chynyddu ymwybyddiaeth o'r holl gyfleoedd creadigol ledled y sir, fel y gall mwy o bobl brofi manteision cyfranogiad creadigol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Dinas Casnewydd trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch ag [email protected]. Manage Cookie Preferences