Yn dilyn ein galwad am ficro-gomisiynau yng Nghymru, bydd tri phrosiect partneriaeth yn defnyddio hyd at £2,000 i ddod â phobl ynghyd o bell trwy greadigrwydd a lleihau unigrwydd yng nghyd-destun cyfyngiadau cloi.

[English]

Cefnogwyd y fenter hon gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i chyflawni mewn partneriaeth â Cer i Greu a Gwanwyn.

Mae'n rhan o'n hymgyrch newydd Cer i Greu a Gwneud Gwahaniaeth gyda'r nod o dynnu sylw at y gweithgareddau creadigol hynny sydd â chysylltiad cymdeithasol yn ganolog iddynt. Er nad yw'n bosibl dod at ein gilydd yn gorfforol i fwynhau gweithgareddau creadigol ar hyn o bryd, rydym yn teimlo ei bod yn hanfodol cynnig ffyrdd o gysylltu, rhannu a chreu gyda phobl eraill.

Gofal Dydd Y Waen & Celfyddydau Cymunedol, Sir Ddinbych

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Gofal Dydd Y Waen, gwasanaeth gofal dydd a seibiant cartref, a redir yn hollol wirfoddol ddwywaith yr wythnos, ac adran Celfyddydau Cymunedol Sir Ddinbych. Bydd yn darparu ystod o weithgareddau celf a chrefft, a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg. Gan anelu at wella lles pobl sy'n ynysig iawn ac sy'n gallu mynd am ddyddiau heb weld person arall, bydd y gweithgareddau creadigol yn cael eu cyflwyno ar sail un i un yn eu gerddi.

  Y bobl a fydd yn elwa o'r comisiwn hwn fydd pobl hŷn sydd wedi'u hynysu oherwydd eu salwch, eu llesgedd a'u hamgylchiadau a phobl iau sy'n byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd - maent i gyd wedi cysgodi ac wedi cael trafferth mawr dros y llynedd gyda'r materion sy'n deillio o hyn yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol. 

Gallwch ddarganfod mwy am Gofal Dydd Y Waen trwy eu tudalen Facebook, ac am y Celfyddydau Cymunedol, Sir Ddinbych trwy eu gwefan.

Cyswllt Celf & Gwasanaeth Cyfeillio Powys

Bydd ‘Ffrindiau Hapus’ yn dod â chreadigrwydd a chymuned i bobl hŷn ynysig yn ystod y pandemig. Mewn partneriaeth rhwng Cyswllt Celf a Gwasanaeth Cyfeillio Powys, bydd y prosiect yn darparu ystod o weithgareddau celfyddydol sydd wedi'u cynllunio i'w cwblhau yn y cartref heb fod angen mynediad i'r rhyngrwyd. Bydd y prosiect hefyd yn creu lle i wirfoddolwyr cymunedol a chyfranogwyr ddod yn 'benpals'.

Mae Powys yn sir wledig a mawr iawn ac roedd materion unigrwydd ac arwahanrwydd yn gyffredin cyn y pandemig. Gyda llawer o bobl hŷn yn dod o fewn categorïau ‘cysgodi’, mae’r unigedd hwn wedi’i ddwysáu’n fawr yn ystod Covid 19.

Gallwch ddarganfod mwy am Gyswllt Celf trwy eu gwefan ac am Wasanaeth Cyfeillio Powys trwy wefan PAVO.

Straeon Gwaun & People Speak Up 

Mae ‘Story Share and Care’ yn brosiect celfyddydau cyfranogol sy’n cyflwyno ystod o weithgareddau creadigol gan gynnwys adrodd straeon, barddoniaeth a gair llafar. Mae People Speak Up eisiau ymestyn y gwaith hwn ymhellach trwy'r bartneriaeth hon, gan adeiladu ar eu harbenigedd eu hunain wrth ymgysylltu â phobl hŷn ynysig, gofalwyr, y rhai sy'n byw gyda dementia a phobl hŷn sy'n profi iechyd meddwl gwael, ac ar lwyddiant Straeon Gwaun wrth ymgysylltu â phobl hŷn trwy raglen adrodd straeon cymdeithasol o ddigwyddiadau a gweithdai misol.

Mae atgofion, adrodd straeon hunangofiannol, straeon traddodiadol, a chwedlau i gyd yn cysylltu pobl â'i gilydd, y rhai o'u cwmpas, eu gorffennol a'r presennol.

Gallwch ddarganfod mwy am Straeon Gwaun ac am People Speak Up trwy wefan PSU.