Gwanwyn: Dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn Mae Gwanwyn yn ŵyl fis o hyd a gynhelir ledled Cymru ym mis Mai bob blwyddyn sy'n dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn. [English] Yn dwyn yr enw Gwanwyn, mae'r ŵyl yn dathlu creadigrwydd ymysg pobl hŷn ac yn tynnu sylw at ein gallu i adnewyddu, tyfu a chreu. Dechreuodd yr ŵyl yn 2007 ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'r wyl yn cynnig cyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol naill ai fel ymarferwyr, trefnwyr neu aelodau o'r gynulleidfa. Mae Gwanwyn hefyd yn helpu pobl hŷn i gydnabod y buddion y gall bod yn greadigol eu cynnig i'w hiechyd a'u lles. Thema gŵyl Gwanwyn ym mis Mai 2022 yw ‘Cysylltiad’. Mae'r pandemig COVID-19 wedi torri cysylltiadau rhwng teuluoedd a ffrindiau, gan gynyddu lefelau unigrwydd ac arwahanrwydd. Wrth i gyfyngiadau leddfu, roeddem am ddathlu sut y gall creadigrwydd arwain at gysylltiadau cymdeithasol newydd neu ailsefydlu. Byddwn yn croesawu gweithgareddau anghysbell yn ogystal â digwyddiadau personol. Gallai'r rhain fod yn weithdai ar-lein lle gall cyfranogwyr roi cynnig ar weithgareddau creadigol gartref, neu drefnu digwyddiadau dan do neu awyr agored: ar yr amod eu bod yn cydymffurfio'n llawn â rheoliadau'r Llywodraeth. Fel erioed, nod Gwanwyn yw herio syniadau rhagdybiedig ac ystrydebol o heneiddio a phobl hŷn ac, ar yr un pryd, annog artistiaid ledled Cymru i adlewyrchu bywydau pobl hŷn a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt. Anfonwch e-bost at [email protected] i dderbyn y newyddion diweddaraf am yr ŵyl eleni.